SOFA SESSIONS
Yn dilyn theam Cartref a Chynefin, prosiect ymgysylltu cymunedol oedd Seisynau’r Soffa. Dyfeisodd, Siwan Llynor, un o’r artistiaid arweiniol y syniad o fynd a soffa o gwmpas y gymuned a sgwrsiau gyda pobl i gasglu eu straeon. Yna gyda Martin Daws, artist arweiniol arall i’r prosiect, datblygwyd y syniad o farddoniaeth i fynd ar y soffa. Croesawodd y tîm unigolion pan allan ar strydoedd Bangor a Bethesda i gymryd rhan mewn gweithgaredd ysgrifennu creadigol er mwyn archwilio beth mae ‘Adra/Home’ yn ei olygu iddynt hwy. Dyma ffordd effeithiol o ymgysylltu gyda’r cyhoedd.
Ddaru’r soffa, dwy gadair, stôl a lamp rhoi gwledd i’r llygad wrth fynd o amgylch Bangor a Bethesda, gan ddenu sylw at ein gwaith – yr elfen hanfodol o’r set oedd ei fod yn denu sylw ond hefyd yn groesawgar i’r cyhoedd. Pan oedd y set yn denu sylw pobl ein agoriad oedd “Croeso Adra” – roedd pobl yn awyddus i ymuno â ni i sgwrsio, rhannu straeon ac ysgrifennu creadigol.
Gweithiodd Buddug Roberts, Bardd a myfyriwr MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor yn agos gyda’n artistiaid ar y soffa ac ysgrifennodd nifer o gerddi yn y Gymraeg wrth ymateb i sgyrsiau gyda’r cyhoedd. Cydweithiodd y cerddorion Henry Horrel, Angharad Owen, Ed Holden ac Owen Maclean gyda ni yn creu caneuona cherddoriaeth gyda phobl ar y soffa. Gwnaed y gweithgareddau hyn yn Pontio, yng nghanol dinas Bangor, Prif Adeilad y Celfyddydau Prifysgol Bangor, Maesgeirchen a stryd fawr Bethesda.
Gweithiwyd gyda grwpiau cymunedol penodol ym Mangor a Bethesda fel rhan o Sesiynau’r Soffa wrth inni fynd â’r soffa i ganolfannau cwrdd cymunedol. Cynorthwyodd myfyrwyr Prifysgol Bangor yn y sesiynau hyn. Gwnaed ffilmiau a thraciau sain gyda chriw Showzone – Maes G, Crawiau Neuadd Ogwen a chlwb gweu O Res i Res.