ABERYSWYTH
HANES CARTREF. CARTREF NEWYDD. CARTREFWYR.
CANOLFAN Y CELFYDDYDAU ABERYSTWYTH
Cartref a Chynefin Aberystwyth - o fis Tachwedd 2021 bu tri artist a myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth yn arwain prosiectau gyda babanod a anwyd yn ystod y pandemig a’u gofalwyr, cymdeithasau myfyrwyr ac unigolion a oedd wedi symud i Aberystwyth o bob cornel o’r byd, a grwpiau canu o ardaloedd gwledig ar draws Geredigion.
Yn ystod sgyrsiau, cyfarfodydd a gweithdai rheolaidd yn archwilio popeth o roboteg i driciau hud, ffotograffiaeth i arferion claddu Llychlynnaidd, ac o ganu i nofio, bu’r grwpiau hyn yn trafod hanes ein Sir a’i chefnwlad, beth mae’n ei olygu i ffarwelio ag un cartref a dod o hyd i un arall, a sut rydym yn cefnogi'r rhai sy'n gwneud ein cartrefi. Arweiniodd rhain at dri digwyddiad agored a ddaeth â phobl o bob rhan o Geredigion ynghyd i ddathlu ein gorffennol, ein presennol a’n dyfodol, a chwestiynu’n beth sydd wedi newid am gartref, y pethau yr ydym am gadw a’r pethau yr ydym am ei newid.
Ar draws y tri phrosiect, "Tân Morgana", "Iâs", a "Creuwyd dan Glo", fe wnaethom ail-ddeffro ein cysylltiadau â'n gilydd ar ôl y pandemig, rhoi cynnig ar bethau newydd a rhannu profiadau gyda dros 500 o bobl o bob rhan o'r sir. Hoffai Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth dweud diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran, o fusnesau bach i aelodau’r gymuned, a wnaeth hwn yn brosiect mor unigryw ac arbennig yn llawn eich syniadau creadigol.