Dros y 5 mlynedd ddiwethaf mae'r hyn a ystyriem yn gartref, yn ddiogel ac yn hysbys inni wedi troi’n dir neb. Rydym wedi dadlau ynglŷn â phwy oeddem ni ac i ble roeddem yn mynd, fel gwlad ac fel pobl. Roeddem yn teimlo ein bod wedi ein twyllo gan Brexit, a throdd ein strydoedd, ein cymdogaethau a’n teuluoedd yn estron. Cyfyngwyd ni i’n hystafelloedd byw, ein hystafelloedd gwely a’n cyfrifiaduron gan gyfnodau clo lluosog. Ac yno y buom yn byw heb bobl a chyda’r golled o bobl, y golled ddideimlad ac enfawr honno. Ac yn ein cartrefi troesom yn wyllt, a chwrdd â’n hunain. Anghenfil: Creadur dychmygol mawr, hyll, a brawychus. Etymoleg: mae’r gair Saesneg monster yn tarddu o’r Lladin monere, ‘rhybuddio’. Mae’r project hwn yn ymwneud â dod o hyd i amser a thosturi i’n angenfilod, croesawu gwesteion nas dymunir, a threulio amser gyda phobl wahanol, pobl yr ydym yn cytuno â nhw ac yn anghytuno â nhw. Fel y Fari Llwyd, sydd dod i guro ar eich drws ym mherfeddion gaeaf yn edrych fel drychiolaeth, i eistedd wrth eich bwrdd, i fwyta, yfed a’ch atgoffa i fyw. Byddwn yn gwneud hynny trwy greu, trwy ddweud, trwy ganu neu ddawnsio, yn y byd go iawn neu ar-lein.
Mathilde López
Yn Aber ym Mangor yn Abertawe byddwn:
Yn dwyn y baich / Yn claddu yn y ddaear / Yn rhannu bwyd wrth y bwrdd
Gyda
Jesse Briton, Stacey Brown, Simon Coates, Martin Daws, Osian Gwynn, Martin Hoyland, Deborah Aguirre Jones, Eddie Ladd, Siwan Llynor, Mathilde Lopez, Shane Nickels, Reg Noyes, Dafydd Rhys, Anna Sharrett, Amanda Trubshaw, Rebecca Smith Williams.