MYNYDD CILFÁI
SUT I FOD GYDA DIEITHRIAID
Gan chwilio am ffyrdd i ailgysylltu yn yr oes hon o ymwahaniad, gwrthdaro a cholled, casglwyd tîm o fyfyrwyr at ei gilydd gan yr artist Deborah Aguirre Jones gyda Grŵp Dydd Mawrth Mynydd Cilfái, Richard (a elwir hefyd yn Blod) a’i geffylau i ddatblygu cyfres o ddigwyddiadau ymarferol, cymdeithasol a chreadigol:
Cwrdd â’r Ceffylau
Gwnaeth myfyrwyr ac aelodau Grŵp Dydd Mawrth wahodd gwesteion i Fynydd Cilfái, lle cawsant eu cyflwyno gan Blod i’w geffylau drwy dasgau ysgafn o frwsio ac ysgrafellu’r ceffylau a’u tywys o amgylch y cae.
Bod gyda’n gilydd
Ar ôl pob sesiwn cwrdd‘r ceffylau, yfodd y ffrindiau a’r dieithriaid hyn de, a bwyta gyda’i gilydd a siarad am eu gobeithion a’u hofnau o fod gydag anifeiliaid, bod ar eu pennau eu hunain neu gydag eraill a bod mewn trafferth.
Bod yn anifail i mi
Gwnaeth y tîm ddychmygu eu hunain fel creaduriaid. Sut fyddai’n teimlo, i gael cryfder a phendantrwydd llew?
Gwneud cofnod o’r eiliadau
Hyfforddwyd myfyrwyr ac aelodau Grŵp Dydd Mawrth i recordio sain a golygu, gan greu darnau o sain i’w cofio a rhannu rhai o eiliadau nodedig y prosiect.
Comisiynodd Deborah y ffotograffydd Michal Iwanowski i greu cofnod o’r eiliadau, y cymeriadau a’r sesiynau ar ochr y mynydd.
Y TÎM
Y MYFYRWYR
Fel rhan o’u MSc Rheoli Peirianneg Gynaliadwy ar gyfer Datblygu Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe, roedd Ekene Obiorah a Vyshnav Pazhuparambil Ramesh eisoes wedi gweithio gyda chymunedau Mynydd Cilfái. Datblygodd eu dealltwriaeth o ecoleg a chymunedau’r mynydd yn dilyn cyfnod o wrando’n astud, ymuno â gweithgareddau parhaus, cefnogi anghenion pobl leol a datblygu prosiectau fel rhan o’u hastudiaethau/hymchwil. Roedd Margo Llwyd Martin yn astudio gradd meistr mewn ymchwil mewn llenyddiaeth Sbaenaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth, a daeth hithau i’r prosiect hwn yn chwilfrydig am gyfathrebu dieiriau a’r ymateb o waelod yr enaid sy’n bodoli rhwng pobl a cheffylau.
Blod
Cafodd Blod ei fagu yn St Thomas gyda cheffylau. Yn hwyrach ym mywyd, prynodd ychydig o dir sydd bellach yn gartref i 7 ceffyl ac 13 gafr. Mae’n cynnal hawliau tramwy cyhoeddus ac yn annog pobl i fwynhau’r mynydd.
GRŴP DYDD MAWRTH
Grŵp Dydd Mawrth yw Jeyhun, Ganimet, Moody, Ali ac eraill, ac maent yn treulio amser gyda Blod a’i geffylau, yn rhannu straeon, bwyd a cherddoriaeth ar y mynydd.
Y CEFFYLAU
Mae Macsen, Maidoc, D.D. a Chester, pedwar ceffyl dan ofal Blod, wedi bod yn ganolog i’r prosiect.
Deborah Aguirre Jones
Mae Deborah Aguirre Jones yn artist cymdeithasol sy’n gweithio ar y cyd â phobl eraill yn archwilio sut a ble rydym ni’n teimlo ein bod ni’n perthyn. Gan chwarae gyda pherfformiad, cerflunio, natur gymdeithasol a gweithgareddau eraill, maent yn cynnal digwyddiadau a sgyrsiau i ganfod syniadau a delweddau sy’n aml yn anweladwy ynom ni a’n perthnasoedd.
Photography by Michal Iwanowski