abertawe
CARTREF. CYMUNED. PERTHYN. CANOLFAN Y CELFYDDYDAU TALIESIN
Cartref a Chefnwlad Abertawe – Yng ngaeaf 2022, daeth artistiaid o amrywiaeth o ddisgyblaethau, myfyrwyr o bedwar ban byd ac aelodau o’r gymuned o bob oedran at ei gilydd yng nghymdogaeth Waun Wen ac ar Fynydd Cilfái. Ar y cyd, cyfnewidiwyd syniadau a chrëwyd gweithiau celf ar thema ‘Cartref a Chefnwlad'’.
Drwy amrywiaeth o ymgynulliadau, gweithdai a chyfarfodydd, gwnaeth y grwpiau hyn archwilio lle, cymuned, eu hunain ac amrywiaeth o ymarferion creadigol, gan gynnwys; serameg, ffilm, sain, argraffuu a chreu mygydau.
Roedd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar ardaloedd Waun Wen a thrafod dosbarthiadau, y gorffennol a pherthyn. Ar Fynydd Cilfái, daeth pobl a cheffylau at ei gilydd mewn cyfarfodydd arbennig lle dysgon ni sut i fod gyda dieithriaid a’n hunain.
Ffocws Cartref a Chefnwlad oedd profiadau newydd, syniadau a pherthnasoedd, gan helpu pawb i gymryd eu camau cyntaf allan o’r cyfnod clo a mentro i fywyd cymunedol unwaith eto. Mae Taliesin yn diolch i bawb a wnaeth roi o’u hamser a’u brwdfrydedd, gan rannu eu stori a’u creadigrwydd â ni.
SUT I FOD GYDA DIEITHRIAID
Ymhell o’r byd digidol a mecanyddol, daeth grŵp o bobl i adnabod ei gilydd drwy dreulio
amser gyda’i gilydd a rhai o geffylau dinesig Abertawe a chamu i fyd y synhwyrau. Archwilio.
FFILM GYMUNEDOL WAUN WEN
ARTIST YN WAUN WEN
Defnyddio celf i archwilio diffyg cynrychiolaeth y dosbarthiadau gweithio yn niwylliant a’r cyfryngau – rydym ni wedi ein diawleiddio gan y dde a’n ffetiseiddio gan y chwith, ein troi’n anghenfil ystrydebau gan fwrgeisiaeth y DU a’n heithrio i raddau helaeth gan y Celfyddydau ac ohonynt. Archwilio.