Pwy a'm dwg i'r ddinas gadarn, Lle mae Duw'n arlwyo gwledd?

 

Merch ffarm yw Eddie ac fe’i magwyd yn sŵn emynau Capel Siloam, Y Ferwig, lle roedd trwch yr aelodaeth hefyd yn gynhyrchwyr llaeth. Nid ond pregeth hirfaeth a geir mewn addoldy; mae’r festri yn llond brechdanau, cacs bach a Victoria Sponges wedi oedfaon mawr a’r atgof hwn roddodd taith Iâs ar ben ffordd. Ers sawl blwyddyn bu awydd arni i fynd i lefydd sydd ag emynau wedi eu henwi ar eu hôl, gan ganu’r emyn neilltuol ym mhob man. Cododd y cyfle. Sut oedd mynd o un man i’r llall? ‘Dyw hi ddim yn gyrru (heblaw am dractors). Yn syllu drwy ffenest ganol gaeaf gan ysu am gysur a golau...beth am fan hufen iâ, cerbyd sydd wastad yn mynd i rywle, yn codi iâs a chalon wrth addo’r ddau?

 

Er fod Eddie yn anabod nifer fawr o emynau, roedd rhai yn ddieithr – Capel Tygwydd a Llanrhystud er enghraifft, ond roedd sawl un o’r cantorion (a Google) yn gwybod amdanynt a’u cyfansoddwyr. Canodd Parti Llanrhystud ei emyn ar safle geni David Lewis, sydd nawr yn faes parcio i Neuadd Goffa’r pentref a lle mae fan byrgyrs yn gweini bob dydd. Mae geiriau Llwyncelyn yn ddolefus (“A phan ddaw gofidiau ynghyd/I ddinistrio ‘nghartref clyd...”) ac fe gyflwynwyd y perfformiad mewn maes parcio arall, un siop Spar y pentref, i’r sawl sydd yn dioddef yn Iwcráin neu wedi eu gyrru o ‘na. A’r iâs pennaf oedd gweld pobl, rhai ohonynt heb gwrdd ers dwy flynedd, yn canu, cymdeithasu a lapo hufen iâ.


Cafwyd hyd i fan hufen iâ! Sef Ice Cream Van Wales o Dregaron (a’i enw barddol Dessert Delights) ac roedd Phil a’i fam yn ddigon parod, ac yn pen draw, yn ddigon amyneddgar, i yrru bob cam o Lambed i Aberystwyth ar Fawrth 5ed, diwrnod y daith. Gan ddechre ar fore o haul a bennu yn y gwynt a’r tywyllwch, fe aeth y fan i bedwar man ar ddeg man ledled Ceredigion. Gwaith Eddie o fis Ionawr oedd tynnu pobl ynghyd, yn ffrindiau, cymdogion, yn gorau, perthnasau a sawl un nad oedd yn eu hadnabod, i ymarfer tôn eu hardal a’u cyflwyno i gyfeiliant arbennig y fan. Roedd hithau’n canu’r dôn yn ei dull ddihafal ei hun (dychmygwch y dôn Gogerddan yn lle Greensleeves) a dyfeisiwyd y sain a threfnu pob tôn gan Plyci, sy’n gerddor electro.


 

“The experience might have been unusual but I hope it did away with the idea that art lies beyond the magic curtain.”

 
 

Eddie Ladd

 

 

creuwyd dan glo

Tân Morgana